liwales.org.uk
liwales.org.uk
Amdano Ni
Home News Committee Policy Technical Information Events Links
Landscape Institute Wales
PO Box 103
Chepstow
NP16 5XU

EMail: info@liwales.org.uk

Y Sefydliad Tirwedd yw'r corff siartredig yn y DU ar gyfer penseiri tirwedd. Fe'i ffurfiwyd 75 mlynedd yn ôl gyda'r prif fwriad o sicrhau safonnau uchel ei Aelodau, drwy ei gôd ymarweddiad mandadedig, wrth iddynt weithio fel penseiri tirwedd a rheolwyr tir.

Mae Aelodau o'r Sefydliad Tirwedd yn perthyn i un o dair adran:

Cynllunwyr Tirwedd: sy'n ymwneud â chynllunio, dylunio a chreu pob math o safleoedd awyr-agored.

Rheolwyr Tirwedd: sy'n defnyddio'u gwybodaeth am blanhigion a'r amgylchfyd naturiol i gynghori ar sut i ofalu am y tirwedd dros yr hir-dymor, a sut i'w ddatblygu.

Gwyddonwyr Tirwedd: sydd â sgiliau arbennig fel: gwyddor-pridd, hydroleg, geomorffoleg neu fotaneg, y gallent ddefnyddio i ddygymod â phroblemau ymarferol gwaith tirwedd.

Ceir mwy o wybodaeth am y Sefydliad Tirwedd a'i Aelodau ar www.l-i.org.uk

Sefydliad Tirwedd Cymru yw'r gangen Gymreig o'r Sefydliad Tirwedd. Pwrpas y wefan yma yw darparu gwybodaeth am y proffesiwn yng Nghymru, gan gynnwys digwyddiadau ac eitemau o newyddion sy'n gysylltiedig â'r tirwedd. Hefyd, rhestr o bractisiau penseiri tirwedd a gofrestrwyd â'r Sefydliad Tirwedd, sydd â swyddfeydd yng Nghymru.

Dyma felly, fel Aelodau sy'n gweithredu yng Nghymru, eich gwefan chi.

Croesawn eich sylwadau! Rhowch wybod, os gwelwch yn dda, os cewch unrhyw anhawster wrth ddefnyddio'r wefan, neu unrhyw broblem cael gafael ar y dogfennau a bostir yma. Croesawn eich ymateb a'ch cyfraniad!

Ymhen amser, cyn gynted ag y bydd adnoddau yn eu caniatau, bwriadwn sefydlu gwefan gyfangwbl ddwyieithog.
Home News Committee Events Links